SUT ALLAF I GYRRAEDD FY APWYNTIAD YSBYTY?

Pa gludiant cyhoeddus sydd ar gael i mi gyrraedd fy apwyntiad ysbyty?

Nid oes gennyf gludiant ac ni allaf ddefnyddio cludiant cyhoeddus

A gaiff rhywun ddod gyda mi ar y Gwasanaeth Cludiant Ysbyty?

Mae fy apwyntiad bellach mewn Sir wahanol?

Nid oes gennyf hawl i gludiant di-dâl gyda'r Gwasanaeth Cludiant Ysbyty?

A oes modd i mi gael cymorth gyda'r costau?

Rwy'n bwriadu teithio mewn car – Beth am barcio?

Oes yna unrhyw gymorth arall?

Pa gludiant cyhoeddus sydd ar gael i mi gyrraedd fy apwyntiad ysbyty?

Gwasanaethau Bysiau i Ysbyty Llwyn Helyg

Rhif y Llwybr

Cychwyn o / drwy

Cwmni Bysiau

T5

Aberystwyth / Aberteifi / Abergwaun

Brodyr Richards

301

Gwasanaeth Tref Hwlffordd

Brodyr Edwards

302

Aberdaugleddau trwy Johnston

First Cymru

313

Clarberston Road / Cas-wis trwy Gryndal

Brodyr Edwards

322

Ysbyty Glangwili trwy Arberth, Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr

Bysiau Cwm Taf

349

Dinbych-y-pysgod trwy Neyland a Doc Penfro

First Cymru

381

Dinbych-y-pysgod trwy Saundersfoot, Cilgeti ac Arberth

First Cymru

Fflecsi

Gogledd-orllewin Sir Benfro (www.fflecsi.cymru)  

Clud Gwirfoddol Sir Benfro

Bwcabus

Gogledd gwledig Sir Benfro (https://bwcabus.traveline-cymru.info/cy/ )

 Brodyr Richards

Gwasanaethau Bysiau i Ysbyty De Sir Benfro, Doc Penfro (Melville Terrace / Street)

Rhif y Llwybr

Cychwyn o / drwy

Cwmni Bysiau

349

Dinbych-y-pysgod a Hwlffordd trwy Neyland

First Cymru

356

Aberdaugleddau trwy Neyland a Chil-maen trwy Benfro

First Cymru

Gwasanaethau Bysiau i Ysbyty Bach Newydd Dinbych-y-pysgod

Rhif y Llwybr

Cychwyn o / drwy

Cwmni Bysiau

361

Doc Penfro trwy Gaeriw, St Florence a Dinbych-y-pysgod

Edwards Coaches

I gael manylion amseroedd bysiau, cysylltwch â’r cyngor ar y linc isod -

https://www.sir-benfro.gov.uk/llwybrau-bysiau-ac-amserlenni/llwybrau-bysiau-rhestr-yr-holl-fysiau

Llwyn Helyg - Glangwili - Bysiau Cwm Taf sy'n gweithredu Bws 322 ac mae'n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn bob wythnos. Mae'r bws cyntaf yn gadael gorsaf fysiau Hwlffordd am 09.05, yn galw heibio Ysbyty Llwyn Helyg, Slebets, Pont Canaston, Llangwathen, Cox Hill, Arberth, Redstone Crods a Llanddewi Efelffre yn Sir Benfro, ac mae'n cymryd fymryn dros awr i gyrraedd Ysbyty Glangwili. Mae dau fws ychwanegol yn gadael Hwlffordd am 12.05 ac 15.05, ac yn dychwelyd o Ysbyty Gangwili am 10.20, 13.20 ac 16.20. Cost tocyn mynd a dod yw uchafswm o £7.50 i oedolyn (o Hwlffordd ac yn ôl) oni bai fod gennych gerdyn teithio rhatach.

Cerdyn Teithio Rhatach Cymru Gyfan – Mae hwn yn rhoi hawl i drigolion Cymru sy'n 60 oed a hŷn a phobl anabl deithio am ddim ar wasanaethau bws lleol ledled Cymru a theithio'n rhatach ar lawer o wasanaethau cludiant cymunedol. I gwneud cais am eich Cerdyn Teithio Rhatach, cysylltwch â Trafnidiaeth Cymru – cliciwch yma: https://trc.cymru/cy/cerdynteithio. Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gefnogaeth arnoch, cysylltwch ag Uned Drafnidiaeth y Cyngor ar 01437 764551.

Nid oes gennyf gludiant ac ni allaf ddefnyddio cludiant cyhoeddus

Fe all Gwasanaeth Gofalu am Gleifion Gwasanaeth Ambiwlans Cymru drefnu cludiant di-dâl ar gyfer apwyntiadau rheolaidd cleifion allanol mewn clinigau, ysbytai a chanolfannau dydd.

Bydd angen i chi gyrraedd meini prawf arbennig i gymhwyso ond, os byddwch yn ateb yn gadarnhaol i unrhyw rai o'r cwestiynu canlynol dylech fod â hawl i gludiant:

  • Ydych chi'n gorfod teithio mewn cadair olwynion?
  • Ydych chi'n gorfod cael cymorth parhaol i gerdded?
  • Ydych chi'n dioddef problem iechyd meddwl, anabledd dysgu neu anhawster siarad, gweld neu glywed, sy'n eich atal rhag defnyddio cludiant cyhoeddus?
  • Ydych chi'n dioddef sgil effeithiau o ganlyniad i'ch triniaeth neu gyflwr meddygol, sy'n eich atal rhag defnyddio cludiant cyhoeddus?
  • Ydych chi angen gwely cludo, neu ocsigen neu nwyon meddygol eraill ar gyfer y daith?
  • Ydych chi'n derbyn dialysis neu driniaeth ganser reolaidd ar hyn o bryd?

Yn ogystal â gwasanaethau damweiniau ac argyfwng, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn trefnu ac yn darparu cludiant yn ddi-dâl i'r ysbyty neu at y deintydd i gleifion sydd heb fod mewn cyflwr i deithio trwy unrhyw ddull arall.

Ffoniwch 0300 123 23 03 i gael rhagor o wybodaeth. Fel arfer mae angen o leiaf 48 awr o rybudd.

A gaiff rhywun ddod gyda mi ar y Gwasanaeth Cludiant Ysbyty?

Mae adegau pan fydd gofalwr yn gallu mynd gyda chi ar y cludiant Ysbyty, er engraifft:

  • Os bydd arnoch angen gofal cyson drwy gydol y daith
  • Mae gennych anawsterau cyfathrebu difrifol neu gyflwr iechyd meddwl sy'n ei gwneud yn anaddas i chi fod ar eich pen ei hun
  • Mae arnoch angen cefnogaeth ar gyfer cyfeireb gyntaf
  • Yr ydych yn derbyn dialysis neu driniaeth ganser
  • Yr ydych o dan 18.[MK1]

 

Mae fy apwyntiad bellach mewn Sir wahanol?

Os oes gennych chi hawl i'r cymorth uchod, byddant yn gallu darparu cludiant i unrhyw ysbyty y mae'r apwyntiad ynddo.

Nid oes gennyf hawl i gludiant di-dâl gyda'r Gwasanaeth Cludiant Ysbyty?

Os nad ydych yn cyrraedd y meini prawf ar gyfer Cludiant Ysbyty di-dâl y Gwasanaeth Gofalu am Gleifion, efallai y gallwch ddefnyddio mathau eraill o gludiant cymunedol o ddrws i ddrws:

  • Ceir Cefn Gwlad Sir Benfro - Y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol sy'n gweithredu'r cynllun hwn ac mae'n darparu cludiant i bobl sy'n methu gwneud eu taith yn unrhyw ffordd arall. Gyrwyr gwirfoddol sy'n gweithredu'r cynllun gan ddefnyddio'u ceir eu hunain ac mae tri gar hygyrch i gadeiriau olwynion ar gael hefyd. Ffoniwch 07585997091 neu rhoi ebost i pembshub@royalvoluntaryservice.org.uk i holi. Cewch deithio am hanner pris gyda Cherdyn Teithio Rhatach.
  • Cars 4 Carers – Volunteering Matters sy'n gweithredu'r cynllun hwn i ddarparu cludiant ar gyfer gofalwyr digyflog ac, os bydd angen, y sawl dan eu gofal. Gyrwyr gwirfoddol sy'n darparu'r gwasanaeth gan ddefnyddio'u ceir eu hunain. Mae angen rhybudd o 48 awr o leiaf. Cewch deithio am hanner pris gyda Cherdyn Teithio Rhatach. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 07469 859029.
  • Gwasanaethau Cerbyd y Dref – Bws Draig Werdd sy'n rhedeg y gwasanaethau bws mini hygyrch hyn o ddrws i ddrws, ar gyfer teithiau lleol o fewn y prif drefi sirol. Gallech ddefnyddio'r rhain i gyrraedd:
    • Ysbyty Llwyn Helyg – Cerbyd Tref Hwlffordd dydd Mawrth a dydd Gwener
    • Ysbyty De Sir Benfro – Cerbyd Tref Penfro / Doc Penfro dydd Mawrth a dydd Iau
    • Ysbyty Bach Dinbych-y-pysgod – Cerbyd Tref Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener
    • Ysbyty Aberteifi – Cerbyd Tref Aberteifi ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener (mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn gallu cynnig lifft o Fwlch-y-groes a Thegryn a mannau eraill ar y ffordd i Aberteifi, ac o Fynachlog-ddu ar ddydd Mercher). Mae galw am gludiant Llandudoch hefyd sy'n rhedeg ar ddydd Iau o ardaloedd Llandudoch, Trewyddel, Cilgerran a Llechryd.

Cewch deithio AM DDIM gyda Cherdyn Teithio Rhatach neu dalu am docyn os nad oes gennych un. Fe all pawb sy'n methu defnyddio cludiant cyhoeddus ddefnyddio'r gwasanaethau, am unrhyw reswm. Ar gyfer ymholiadau neu archebion ffoniwch 0845 686 0242.

  • Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro – Mae ganddynt geir hygyrch i gadeiriau olwynion ar gael at ddefnydd preifat pan nad oes eu hangen ar gyfer Gwasanaeth Ceir Cefn Gwlad Sir Benfro. I logi cerbyd hygyrch ffoniwch 07494 275538 or neu ebostiwch pvtbookings@outlook.com . Os ydych angen un o'n gyrwyr gwirfoddol i yrru'r cerbyd hygyrch ar eich rhan, ffoniwch cerbydau RVS ar 07585997091 neu e-bostiwch pembshub@royalvoluntaryservice.org.uk

A oes modd i mi gael cymorth gyda'r costau?

Os ydych yn cael Budd-daliadau ar Sail Incwm neu'n cael incwm isel, efallai y gallwch gael ad-daliad ar gost y daith. Mae gan gleifion sy'n derbyn budd-daliadau arbennig neu sydd ar y Cynllun Incwm Isel hawl i wneud cais am gymorth gyda chostau cludiant angenrheidiol triniaeth GIG dan ofal meddyg ymgynghorol. Fe all y costau gael eu talu'n llawn, neu'n rhannol, a gallant gynnwys y canlynol:

  • Pris tocynnau cludiant cyhoeddus.
  • Lwfans milltiroedd am deithiau mewn car preifat neu'r costau cludiant cyhoeddus cywerth (pa un bynnag sydd leiaf).
  • Cyfraniadau cleifion at gostau cludiant darparwr cludiant cymunedol neu gynllun ceir gwirfoddol lleol am eu cludo i neu o'r ysbyty.

Y prif fan cyswllt ar gyfer y cynllun hwn fydd y Swyddfeydd Cyffredinol ymhob un o'n Ysbytai.

Rwy'n bwriadu teithio mewn car – Beth am barcio?

Ysbyty Llwyn Helyg – mae parcio ar y safle am ddim.

Ysbyty Glangwili – Fe all parcio yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili fod yn anodd yn ystod cyfnodau prysur. Oherwydd hyn, rydym wedi sefydlu gwasanaeth parcio a chludiant o faes parcio cae sioe Nantyci i'r ysbyty. Mae hwn yn agored i holl gleifion, ymwelwyr a staff ac yn cymryd dim ond 15 munud i fynd rhwng y safleoedd.

  • Mae'r gwasanaeth yn rhedeg bob 30 munud o 07:00 i 19:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Mae'n gadael y cae sioe ar yr awr a'r hanner awr.
  • Mae'n gadael yr ysbyty chwarter i a chwarter wedi'r awr.
  • Cost y gwasanaeth hwn yw £1 yr un ac mae'n cynnwys dychwelyd.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, cliciwch y linc http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/83744

 

Oes yna unrhyw gymorth arall?

  • Teuluoedd ifanc diamddiffyn – Mewn llawer achos, bydd teuluoedd yn methu talu costau dechreuol y teithiau hyn, ac mae modd darparu taxi neu tocynnau bws pan fo gwasanaethau bysiau'n briodol. Bydd llyfrau o docynnau ar gael yn y wardiau ac adrannau canlynol a byddant yn cael eu rhoi yn ôl doethineb yr Uwch-nyrs ar ddyletswydd:
    • Ysbyty Glangwili – Ward Cilgerran / SCBU / PACU / MLU / A&E / CAMHS.
    • Ysbyty Llwyn Helyg – PACU / MLU / A&E / CAMHS

Share this page...

Current Volunteering Opportunities