Mynd ar Siwrnai mewn car hygyrch

Accessible Car

 

Ydych chi mewn cadair olwyn?
Ydych chi'n moyn mynd i siopa?
Ydych chi'n moyn cael torri'ch gwallt mewn siop drin gwallt?
Ydych chi neu'ch partner yn gorfod mynd i gael gofal seibiant?
Ydych chi'n moyn dal ati i fod yn annibynnol?

Gall Ceir Cefn Gwlad Eich Helpu Chi

I achebu siwrnai mewn Car hygrynch, ffoniwch 07585 997091 neu rho ebost ar: pembshub@royalvoluntaryservice.org.uk

Mae gyda'r Royal Voluntary Service, ar y cyd â Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro a Chymdeithas Trafnidiaeth Gwledig Preseli, 3 cerbyd, y gall cadeiriau olwyn fynd arnynt, ar hyn o bryd. Mae gyda hwy ddigon o le i un person mewn cadair olwyn a dau deithiwr.

Caiff y gadair olwyn ei thynnu i mewn i'r cerbyd gan ddefnyddio winsh drydan. Wedyn caiff ei dal yn sownd gyda 4 ateg ar y llawr, ac ategyn cyffredin dros yr ysgwydd ac ar draws y gwasg.

Mae'r holl amodau a'r taliadau yr un fath a'r rhai hynny ar gyfer car cyffredin -
MAE ARNOM EISIAU EICH HELPU CHI A CHYNNAL EICH ANNIBYNIAETH.

OND wrth gwrs rydym bob amser yn chwilio am ragor o gwirfoddolwyr i weithredu'r cynllun gwerthfawr hwn y mae ei fawr angen; hebddynt hwy byddem yn stopo'n bwt.

 

Am fenthyg car hygyrch?

Mae ein ceir hygyrch hefyd ar gael i unigolion a grwpiau i'w llogi gyda'r nos ac yn ystod y penwythnosau, yn ogystal ag yn ystod yr wythnos os nad os eu hangen ar wasanaeth Ceir Cefn Gwlad.

Mae pobl wedi llogi ein ceir er mwyn helpu teuluoedd neu ffrindiau sy'n ddefnyddwyr cadair olwyn i fynd i briodasau a bedyddiadau, i fynd i ddigwyddiadau gyda'r nos ac i ymweld â ffrindiau. Mae lle yn ein ceir i un defnyddiwr cadair olwyn ac i fyny hyd at ddau deithiwr arall, yn ogystal â gyrrwr. Darperir hyfforddiant mewn defnyddio seddi diogel y gadair olwyn.

Ffi'r defnydd yw 60c/filltir, isafswm £18 (mae isafswm y ffi yn cynnwys yr 20 milltir gyntaf).

Sut ydw i'n archebu? Er mwyn cael eich rhif ffôn lleol, cysylltwch Karel ar 07494 275538 neu PVTbookings@outlook.com Dylech roi o leiaf 48 awr o rybudd os oes modd.

 

Cynllun Pasport Cadair Olwyn

Cliciwch man hyn i lawrlwytho taflen

 

 

 

 

Share this page...

Cyfleoedd Gwirfoddoli ar hyn o bryd