Gwasanaeth Galw am Reid

Os oes gyda chi Gerdyn Teithio Rhatach yna cewch deithio AM DDIM Neu gallwch dalu’r pris teithio llawn os nad oes cerdyn teithio ’da chi. 

Cliciwch trwy unrhyw un o’r meysydd gwasanaeth canlynol er mwyn cael y manylion.  Neu i lawrlwytho Taflenni ar gyfer ein gwasanaethau Galw am Reid, cliciwch yma

Fflecsi Sir Benfro

Fflecsi Bus at Newgale  Fflecsi Service area

Mae Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro (PVT) yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Benfro i weithredu Fflecsi, gwasanaeth bws hyblyg ar gyfer Gogledd-orllewin Sir Benfro, sy'n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn tan 6.30 p.m. 

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth gan PVTgan gynnwys cyfarwyddiadau defnyddiol ar sut i ddefnyddio ap Fflecsi.

Gallwch hefyd archebu trwy galw 0300 234 0300 neu ymweld â'r wefan fflecsi.cymru

 

Green Dragon (Preseli Rural Transport Association)Galw am Fws a Gwasanaeth Y Dref

Cliciwch yma am manylion

Gall pawb na allant deithio ar fysiau cludiant cyhoeddus deithio ar y bysiau hyn, am ba reswm bynnag.

Mae'r gwasanaethau'n gweithredu yn ystod y dydd yn yr ardaloedd hyn ac o'u hamgylch:

Aberteifi – Llun, Mercher, Gwener

Clydau i Aberteifi – Mercher

Abergwaun/Wdig – Iau, Gwener, Sadwrn

Hwlffwrdd – Mawrth, Gwener

Aberdaugleddau – Mercher, Sadwrn

O Bwlchygroes i Arberth drwy Maenclochog, Clarbeston Road – Llun

Penfro/Doc Penfro – Mawrth, Iau

Llandudoch – Llun, Mercher, Iau, Gwener

Dinbych y Pysgod/Saundersfoot – Llun, Mercher, Gwener

 

Am ymholiadau ac i archebu - 0845 686 0242 admin@greendragonbus.co.uk

 

 

Galw am Fws i Arberth

Cliciwch man hyn am y manylion

 

Teithio ar ddydiau Mawrth, Mercher a Gwener.

Yn Cyrraedd Arberth am 10.50yb
Bydd yn gadael Arberth am 12.15yh &
4.15yh.

Am ymholidau ac i archebu – 01834 860293

 

Galw am Fws Neyland

Cliciwch man hyn am y manylion

 

Teithio ar ddydd Mercher rhwng 9.30yb a 3.30yh

Am ymholidau ac i archebu – 01437 711033

 

 

 

 

 

 

 

Share this page...

Cyfleoedd Gwirfoddoli ar hyn o bryd