Neges i Bob Gwirfoddolwr!

A ydych ch’n berchen car ac a oes gyda chi awr rydd neu ddwy? Yna mae ar Ceir ar gyfer Gofalwyr eich angen chi.

Mae cynllun Ceir ar gyfer Gofalwyr Volunteering Matters wastad yn falch o gael gyrwyr newydd i ddarparu cludiant ar gyfer y nifer fawr o ofalwyr digyflog yn Sir Benfro sy’n gofalu am ffrindiau neu berthnasau tost neu oedrannus.

Mae Ceir ar gyfer Gofalwyr yn cynorthwyo aelodau ein cynllun i fynd i siopa, mynd i weld eu Meddyg Teulu a’r apwyntiadau iechyd sy’n gysylltiedig â hynny. Gallant hefyd fynd i gwrdd â ffrindiau a pherthnasau a mynd i gyfarfodydd grwpiau cymorth neu ddiddordeb hanfodol.

Byddwch yn defnyddio’ch cerbyd eich hun ac felly byddwch yn cael tâl milltiredd; mae’r swydd hon yn un hyblyg dros ben hefyd sy’n golygu y gallwch chi neilltuo’r amser yr ydych chi’n dymuno ei neilltuo.

Gofynion:

- Ar gyfer y swydd hon gofynnir ichi gael Gwiriad Datgelu a Gwahardd ond er mwyn hwyluso popeth cymaint ag y bo modd ichi, bydd Volunteering Matters yn ymorol am hyn i gyd, gan gynnwys gweddill y broses recriwtio;

- Rhaid ichi fod â’ch yswiriant car eich hun, ac ni ddylai bod yn yrrwr gwirfoddol olygu y byddai eich tâl premiwm yn cynyddu o gwbl. Mae gyda ni gyfarwyddyd ymarferol sy’n gallu esmwytho unrhyw bryderon a fyddai gyda chi;

- Rhaid i’ch car fod â thystysgrif MOT ddilys.

Pan fyddwch chi’n aelod o Raglen Wirfoddoli’r Rhai sydd wedi Ymddeol a Phobl Hŷn y Volunteering Matters byddwch yn elwa ar ein hyswiriant aelodaeth sy’n rhoi cwfert personol ichi. Rydym hefyd yn darparu Bonws Dim Cais a Chwfert Gor-dâl ar gyfer Gyrwyr Gwirfoddol. Ar gyfer eich swydd wirfoddoli byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglen ymsefydlu, lawn a lleol, a chofiwch y gallwch wastad ffonio staff neu wirfoddolwyr Sir Benfro er mwyn cael gair o gyngor a chymorth unwaith y byddwch chi wedi dechrau gwirfoddoli.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso ichi ffonio Rachel Evans er mwyn cael sgwrs, ar: 01437 769422 (PAVS, Hwlffordd), neu gydag e-bost yn: rachel.evans@volunteeringmatters.org.uk

 

Share this page...

Cyfleoedd Gwirfoddoli ar hyn o bryd