Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gwasanaethau Trafnidiaeth Cymunedol yn Sir Benfro:
Diolch i'r cyllid gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, a Llywodraeth Cymru trwy'r Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, rydym wedi llwyddo i ddarparu cyfarpar diogelu personol ac offer glanhau arbenigol i sicrhau bod Gwasanaethau Trafnidiaeth Cymunedol yn ôl ar y ffordd yn ddiogel.
Rydym yn falch o gael cyhoeddi bod y gwasanaethau canlynol bellach ar gael i groesawu teithwyr ar gyfer teithiau sy'n unol â chanllawiau teithio presennol gan Lywodraeth Cymru:
Mae Ceir Cefn Gwlad ar gael unwaith eto ar gyfer teithiau siopa hanfodol neu deithiau sy'n ymwneud â'ch iechyd. Cysylltwch â pembshub@royalvoluntaryservice.org.uk neu ffonio 07585997091.
Mae'r gwasanaeth Ceir Cefn Gwlad sy'n defnyddio cerbydau hygyrch i gadeiriau olwynion yn dal i fod ar gau, fodd bynnag mae modd hurio cerbydau hygyrch i gadeiriau olwynion ar gyfer teithiau hanfodol. Cyswllt: 01437 711042.
Mae'r gwasanaethau Galw am Fws bellach yn gweithredu eto, ond gyda nifer gyfyngedig o deithwyr. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau Cerbyd y Dref a'r gwasanaeth Fflecsi Sir Benfro. Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol. Hefyd, mae bysiau bach cymunedol ar gael i'w hurio. Cysylltwch â'ch gweithredwr lleol am fwy o wybodaeth ac i archebu
Mae'r cynllun Bydi Bws yn gallu darparu cymorth i bobl sydd angen gwneud taith hanfodol trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gymunedol, ffoniwch 01437 770119 neu anfonwch e-bost at busbuddies@pacto.org.uk.
Yn sgil y risg uchel sy'n gysylltiedig â rhannu cerbyd gyda phobl o du allan eich cartref neu eich swigen uniongyrchol, mae'r gwasanaeth Take Me Too! yn parhau i fod ar gau. Rydym wedi cyhoeddi cyngor ynglŷn â rhannu cerbydau yn ystod argyfwng y coronafeirws yma: https://takemetoo.co.uk/en/news/take-me-too-update-lift-sharing-during-covid-19-outbreak/?lang=cy
|