Gwybodaeth am y Coronafeirws COVID-19

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gwasanaethau Trafnidiaeth Cymunedol yn Sir Benfro:

Diolch i'r cyllid gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, a Llywodraeth Cymru trwy'r Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, rydym wedi llwyddo i ddarparu cyfarpar diogelu personol ac offer glanhau arbenigol i sicrhau bod Gwasanaethau Trafnidiaeth Cymunedol yn ôl ar y ffordd yn ddiogel.

Rydym yn falch o gael cyhoeddi bod y gwasanaethau canlynol bellach ar gael i groesawu teithwyr ar gyfer teithiau sy'n unol â chanllawiau teithio presennol gan Lywodraeth Cymru:

Mae Ceir Cefn Gwlad ar gael unwaith eto ar gyfer teithiau siopa hanfodol neu deithiau sy'n ymwneud â'ch iechyd. Cysylltwch â pembshub@royalvoluntaryservice.org.uk neu ffonio 07585997091.

Mae'r gwasanaeth Ceir Cefn Gwlad sy'n defnyddio cerbydau hygyrch i gadeiriau olwynion yn dal i fod ar gau, fodd bynnag mae modd hurio cerbydau hygyrch i gadeiriau olwynion ar gyfer teithiau hanfodol. Cyswllt: 01437 711042.

Mae'r gwasanaethau Galw am Fws bellach yn gweithredu eto, ond gyda nifer gyfyngedig o deithwyr. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau Cerbyd y Dref a'r gwasanaeth Fflecsi Sir Benfro. Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol. Hefyd, mae bysiau bach cymunedol ar gael i'w hurio. Cysylltwch â'ch gweithredwr lleol am fwy o wybodaeth ac i archebu

Mae'r cynllun Bydi Bws yn gallu darparu cymorth i bobl sydd angen gwneud taith hanfodol trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gymunedol, ffoniwch 01437 770119 neu anfonwch e-bost at busbuddies@pacto.org.uk.

Yn sgil y risg uchel sy'n gysylltiedig â rhannu cerbyd gyda phobl o du allan eich cartref neu eich swigen uniongyrchol, mae'r gwasanaeth Take Me Too! yn parhau i fod ar gau. Rydym wedi cyhoeddi cyngor ynglŷn â rhannu cerbydau yn ystod argyfwng y coronafeirws yma: https://takemetoo.co.uk/en/news/take-me-too-update-lift-sharing-during-covid-19-outbreak/?lang=cy

Cymorth Cymunedol

Am fwy o wybodaeth am fathau eraill o gymorth sydd ar gael i bobl sy'n teimlo'n unig neu'n hunanynysu yn eu cartrefi, cysylltwch â Hwb Cymunedol Cymorth COVID-19 Cyngor Sir Penfro:

Gwefan: https://www.sir-benfro.gov.uk/coronavirus-covid-19-community-information-cym/coronavirus-covid-19-gwybodaeth-gymunedol

Rhif ffôn: 01437 776301 (o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm)

E-bost: covid19cymunedol@sir-benfro.gov.uk

 

Mae gwybodaeth am wasanaethau trên lleol ar gael yma

 



Share this page...

Current Volunteering Opportunities